Roedd Clough ac Amabel Williams Ellis yn llenorion toreithiog. Cyhoeddodd y ddau ohonynt hunangofiannau:
Y gwaith cyntaf o eiddo Clough a gafodd ei gyhoeddi oedd Reconography, dull o hyfforddi’r meddwl i ddwyn tirweddau i gof er mwyn eu braslunio maes o law, a baratowyd yn ystod y rhyfel tra’r oedd Clough yn aelod o reng newydd Corfflu’r Tanciau, er na chyhoeddwyd y gwaith tan 1919. Ar ôl hynny, ysgrifennodd yn helaeth ar bensaernïaeth, cynllunio a chadwraeth, gan gynnwys y canlynol:
Llyfr am luniau Clough, gyda darluniau gwych o'r Royal Institute of British Architecture:
Roedd Amabel Williams-Ellis hyd yn oed yn fwy toreithiog na Clough, yn gweithio fel awdures pan briododd, a chyhoeddodd mwy na 70 o lyfrau erbyn diwedd ei hoes. Roedd trywydd ei gwaith yn eang iawn, o'i gwaith cynnar sef An Anatomy of Poetry, 1922, sydd ar gael heddiw, aeth ymlaen i lunio nofelau, bywgraffiadau, llyfrau gwyddoniaeth i bobl nad oeddent yn wyddonwyr, llyfrau hanes, llyfrau plant gan gynnwys How you Began, a gafodd ei ailgyhoeddi’n ddiweddar yn Reading and Rebellion, an anthology of Radical Writing for Children yn 2018. Cynhyrchodd weithiau cymdeithasol a phamffledi yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cyfrolau o Straeon Tylwyth Teg, a chasgliadau o straeon Ffuglen Wyddonol.
Roedd gan Amabel ddiddordeb ym mywydau menywod fel y gwelwyd, er enghraifft, yn ei llyfr Women in War Factories, ac yn ei nofelau hefyd. Mae rhywfaint o'i gwaith wedi cael ei adolygu o’r newydd yn ddiweddar gan Jayne Sharrat ac mae ganddi ddarn diddorol ar y nofel The Big Firm ar y wefan Neglected Books, gallwch ei ddarllen yn y ddolen ganlynol: neglectedbooks.com/?tag=amabel-williams-ellis. Mae Jayne yn argymell y canlynol, ac nid yw’r adolygiad yn cynnwys ei chyfres o straeon tylwyth teg:
Noah's Ark – mae’r nofel hon yn ymwneud â'r tensiwn rhwng cael eich hunaniaeth eich hun, a bod eisiau priodi. Mae hefyd yn cynnwys golygfa geni plentyn a fyddai wedi bod yn agwedd flaengar ar y pryd; The Big Firm – am bopeth a nodir yn y blog.
Women in War Factories – cipolwg diddorol ar fywyd menywod a oedd yn mynd allan i weithio ar y pryd. Is a Woman's Place in the Home? – Cyfres o bamffledi trafod y Blaid Lafur, sy’n dangos y credai y byddai Llafur yn cyflwyno cyflog cyfartal i fenywod ac yn dadlau o blaid hynny, (er na ddigwyddodd hynny tan yr 1970au wrth gwrs). The Art of Being a Woman – disgrifiad cynnar o’r ffordd y mae menywod yn llywio bywyd i bob diben, sy’n parhau’n hynod berthnasol heddiw! The Art of Being a Parent - yn dadlau'n groes i'r farn arbenigol ar y pryd, sef y dylai mamau aberthu eu hunain ar gyfer anghenion eu plant yn llwyr.
Nodir llyfrau a luniwyd gan Amabel ar y cyd â Clough, a gyda'u plant uchod:
Sampl o lyfrau ffeithiol gan Amabel:
Sampl o lyfrau ffuglen gan Amabel
I blant