Plas Brondanw yw'r prif dy ar yr ystad.
"Oddeutu adeg fy mhen-blwydd yn bump ar hugain ac yn gwbl annisgwyl, trosglwyddodd fy nhad y cyfrifoldeb o reoli Plas Brondanw, hen gartref y teulu Williams, i mi - eiddo y byddwn i'n ei etifeddu yn y pen draw,” ysgrifennodd Clough Williams-Ellis. "O dipyn i beth, ymgollais yn yr hen dy a'r gwaith o'i adfer ac ar wahân i'm gwaith proffesiynol dyma oedd fy mhrif ddiddordeb.”
Ehangwyd yr ystad pan brynodd Clough ddau eiddo mynyddig cyfagos a oedd dan fygythiad oherwydd mwyngloddio. Nid yw Ystad Brondanw erioed wedi cael ei phrynu na'i gwerthu ac mae bellach yn eiddo i ymddiriedolaeth elusennol er mwyn ei diogelu. Mae'r gerddi ar agor i'r cyhoedd.
Mae eiddo'r Ymddiriedolaeth yn cael ei reoli gan asiantiaid sef Balfours LLP. Gweinyddir eiddo'r Ymddiriedolaeth gan asiantaeth Balfours LLP, gweler gwefan www.balfours.co.uk. Richard Jones-Perrott a Frances Steer yw'r cysylltiadau yn Balfours ar gyfer ymholiadau Brondanw:.
Balfours LLP
New Windsor House
Oxon Business Park
Shrewsbury, SY3 5HJ
Ffôn: 01743-241181
Ebost: enquiries@balfours.co.uk