Roedd Syr Clough Williams-Ellis (1883-1978) yn un o arloeswyr pennaf cadwraeth, amgylcheddaeth a dylunio pensaernïol yr ugeinfed ganrif.
Roedd ei ddylanwad yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ond roedd ganddo hefyd ymroddiad llwyr i’r ardal yng Ngogledd Cymru lle’r oedd yn byw. Ei ddiddordeb ysol oedd gwarchod harddwch naturiol a phensaernïol yr ardal, ynghyd â datblygu ac ailwampio’r harddwch hwnnw pan fo hynny’n briodol. Mae'r Sefydliad yn bodoli i sicrhau bod gwaddol Clough yn cael ei warchod a’i weledigaeth yn parhau.