English

Ynni

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r Ymddiriedolwyr wedi adeiladu dau gynllun hydrodrydanol ar yr Ystad.

Lleolir y naill ar Afon Maesgwm a’r llall ar Afon Croesor. Mae’r ddau gynllun yn cymryd rhywfaint o ddŵr o’r afonydd ac yn defnyddio’r dŵr hwn i gynhyrchu trydan trwy gyfrwng tyrbin. Cytunwyd ar swm y dŵr a dynnir o’r afonydd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae’r mewnfeydd neu’r llifddorau wedi’u gosod mewn modd a fydd yn sicrhau na fyddwn byth yn tynnu mwy o ddŵr na’r disgwyl nac yn achosi niwed i ecosystemau’r afonydd. Mae pob cynllun yn cynhyrchu digon o ynni i ddarparu trydan i oddeutu 100 o dai. Uchelgais yr Ymddiriedolwyr yw cyflunio’r cynlluniau yn y dyfodol fel y bydd modd defnyddio’r ynni a gynhyrchir ganddynt yn lleol, er budd y gymuned leol. Dyma’r partneriaid a’n cynorthwyodd i gyflawni’r prosiectau hyn:

GH Jones, Pwllheli
Keim Water, Ludlow
Renewables First, Stroud


Mae gan Blas Brondanw foeler biomas sy’n darparu gwres a dŵr poeth cynaliadwy i Blas Brondanw, 1-3 Bwthyn, Penstep, Twll Wenci, y Porthdy, yr Orendy a Chaffi Plas Brondanw. Mae’r cynllun yn defnyddio oddeutu 100 tunnell o bren bob blwyddyn. Daw’r pren hwn o Ystad Brondanw. Caiff y pren ei dorri’n sglodion ar y safle gan un o denantiaid yr Ystad sydd, yn ei dro, yn llwytho’r sglodion pren i’r boeler. Boeler llosgi pren ETA Hack 200KW yw boeler Brondanw, ac yn ôl yr holl denantiaid sy’n ei ddefnyddio mae eu safon byw wedi gwella’n gyffredinol.