English

Trosolwg o’r Ystad

Mae Ystad Brondanw wedi’i lleoli yng Nghwm Croesor ac mae’n ymestyn dros oddeutu 4,000 erw. Etifeddodd Syr Clough ran isaf yr ystâd ym 1925, cyn ychwanegu’r rhan uchaf yn ddiweddarach i gynnwys anheddiad hanesyddol y Parc a mynyddoedd y Cnicht a Moelwyn Mawr gan y teulu Annwyl ym 1942.

residential properties

Heddiw, mae’r Ystad yn cynnwys;

  • Tua 50 eiddo preswyl sy’n cael eu gosod
  • 4 fferm wedi’u gosod
  • Neuadd Farchnad Tremadog
  • Coetir llydanddail a chonwydd
  • Plas Brondanw
  • Caffi a Gerddi Plas Brondanw
  • Cofeb Ryfel Llanfrothen
  • Rhan o Afon Croesor ac Afon Maesgwm
  • 4 cynllun ynni adnewyddadwy
  • Hen chwareli llechi
  • Tafarn y Brondanw Arms/Y Ring (ar osod i Fenter y Ring)